Mae hi’n amser Rownd 5 – Y Cyfle Olaf Ond Nid y Lleiaf 

Galwad am Geisiadau Grant gan Sefydliad Celfyddydau Ulrike Mich

07.10.2024

Mae Sefydliad Ulrike Michal yn falch o gyhoeddi agor eu rownd ariannu olaf ar gyfer ceisi-adau am grantiau.

Mae’r Sefydliad yn gallu cynnig:

  • Pedwar grant, pob un hyd at £3,000, a phedwar grant, pob un o rhwng £3,001 a £5,000 am brosiectau celfyddyd sy’n “hyrwyddo, annog ac ymestyn y cariad at, gwerth-fawrogiad, mwynhad, dealltwriaeth ac arfer celfyddydau cain, addurnol a chymhwysol ymysg pobl o bob oed trwy brofiadau mewn amgueddfeydd, orielau celf, eiddo
    hanesyddol ac yn y gymuned yn gyffredinol, fel unigolion ac yn gymunedol, fel cyfranogwyr a gwylwyr.”

  • Pedwar grant myfyrwyr am hyd at £500 yr un i gynorthwyo myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau yn y celfyddydau cain ac addurnol.

Mae’r sefydliad wedi bod yn falch o gefnogi gweithdai celfyddyd (cain ac addurnol), arddangosfeydd celf sylweddol, buddosddiad mewn orielau, celfyddyd cyhoeddus, cadwraeth gweithiau celf, celf yn y gymuned a phreswylfeydd i artistiaid mewn prosiectau
wedi’u trefnu gan artistiaid unigol, grwpiau cymunedol, ysgolion, amgueddfeydd lleol a chenedlaethol, ac orielau celf. (Mae dewis bach o’r prosiectau anhygoel y mae’r Sefydliad wedi helpu i ddigwydd ynghlwm â’r datganiad hwn i’r wasg.)

Fe roddir ystyriaeth i unrhyw brosiect celfyddyd gain neu addurnol sy’n cwrdd ag amcanion cyffredinol y sefydliad. Mae’r Ymddiriedolwyr yn croesawu’n arbennig ceisiadau sy’n trysori, dathlu, datblygu, arddangos ac yn rhannu sgiliau traddodiadol y celfyddydau cain ac addurnol.

Dywed David Brown, Cadeirydd Sefydliad Ulrike Michal, “Ar ddechrau Rownd 4, cyhoeddodd yr Ymddiriedolwyr her gan fod y Sefydliad wedi ariannu llawer o ddigwyddi-adau gweithdai ac arddangosfeydd clybiau, y base ganddyn nhw ddiddordeb arbennig i
dderbyn ceisiadau am brosiectau mwy arloesol, anarferol ac yn gadael ôl hirdymor. Ymatebodd artistiaid, curaduron, ac ymarferwyr creadigol i’r her gyda rhai cynlluniau bendigedig ac roedd y Sefydliad wedi medru cefnogi naw ohonyn nhw.

Gan mai dyma’r rownd olaf o grantiau’r Sedfydliad, rydyn ni’n cyhoeddi’r her hon un-waith eto. Beth am i bwrpas y Sefydliad eich ysbrydoli i lunio eich cynllun, cyflwyno eich cais a bydd yr Ymddiriedolwyr yn anelu at eich helpu i wireddu’r goreuon.”

Ceir manylion llawn am y cynl-luniau grant craidd a myfyrwyr, ynghyd â’r meini prawf, ar wefan y sefydliad: www.umffta.org

Mae’r Sefydliad yn croesawu ceisiadau grant am brosiectau a fydd o fudd i gymunedau ledled gogledd Cymru, Glannau Merswy a siroedd y gororau, Swyddi Caer, Yr Amwythig a Henffordd, yn ystod y cyfnod o fis Mawrth 2025 hyd at Ebrill 2026, a bydd yr ymddiriedolwyr yn ystyried amserlin hirach os gall yr ymgeisydd gyfiawnhau’r angen am amser ychwanegol.

Ni fydd y Sefydliad yn cynnig unrhyw grantiau myfyrwyr yn y rownd derfynol hon. Fodd bynnag, caiff myfyrwyr wneud cais am grantiau craidd cyhyd ag y bo’u prosiectau’n cyfarfod â meini prawf craidd y grant.

Y dyddiad cau ar gyfer holl ceisiadau grant craidd ydy 20fed Rhagfyr 2024,5 y.p.

Mae Ymddiriedolwyr y Sefydliad yn cadw’r hawl i newid y nifer o grantiau craidd a grant-iau myfyrwyr, yn dibynnu ar ansawdd y ceisiadau.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni