Yn Olaf Ond Nid Leiaf

15.11.2024

Rownd 5 yw'r rownd olaf o ddyfarniadau grantiau ar gyfer Sefydliad Celfyddydol Ulrike Michal.

Cafodd y sefydliad ei sefydlu ar ddiwedd 2019 gan dri ffrind i Ulrike Michal, sef milfeddyg o'r Swistir a ymgartrefodd yn Swydd Gaer, gan ddilyn ei chariad tuag at gelf yn ei hamser hamdden - gartref, fel aelod o'r Liver Sketching Club (y clwb hynaf i artistiaid yn Lerpwl), ac fel myfyrwraig israddedig ran-amser mewn celfyddyd gain ym Mhrifysgol Bangor yng Ngwynedd, gogledd Cymru.

Nod Sefydliad Ulrike Michal yw “hyrwyddo, annog ac ymestyn y cariad, y gwerthfawrogiad, y mwynhad, y ddealltwriaeth a’r ymarfer o’r celfyddydau cain, addurniadol a chymhwysol ymhlith pobl o bob oedran trwy brofiadau mewn amgueddfeydd, orielau celf, eiddo hanesyddol ac o fewn y gymuned ehangach, boed os yw hynny'n unigol neu'n gymunedol, fel cyfranogwyr a gwylwyr.”

Cafwyd llwyddiant yn y nod hwn drwy gyflwyno grantiau gydag arian o ystâd Ulrike Michal. Y nod fu defnyddio’r arian hwnnw er budd eraill o fewn y meysydd bywyd - celfyddyd gain, darlunio a phaentio - a oedd yn golygu cymaint i Ulrike, yn ystod ei magwraeth yn Basel, y Swistir, ac yn ei bywyd fel oedolyn pan ymgartrefodd yn Swydd Gaer.

Yn Rownd 5, mae’r Sefydliad yn gallu cynnig:

  • Pedwar grant, pob un hyd at £3,000, a

  • Phedwar grant, pob un o rhwng £3,001 a £5,000

am brosiectau celfyddyd sy’n “hyrwyddo, annog ac ymestyn y cariad at, gwerthfawrogiad, mwynhad, dealltwriaeth ac arfer celfyddydau cain, addurnol a chymhwysol ymysg pobl o bob oed trwy brofiadau mewn amgueddfeydd, orielau celf, eiddo hanesyddol ac yn y gymuned yn gyffredinol, fel unigolion ac yn gymunedol, fel cyfranogwyr a gwylwyr.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am grant Rownd 5 yw 20 Rhagfyr 2024.

Roedd yr Ymddiriedolwyr yn gallu dyfarnu naw gwobr yn Rownd 4 ac isod ceir diweddariadau ar ychydig o'r prosiectau y dyfarnwyd grantiau ar eu cyfer yn gynharach eleni.

Downloads